Dewis y math gorau o lawr
I’ch helpu i ddewis y llawr gorau i chi, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cynllunio ac amcangyfrif yn rhad ac am ddim heb unrhyw orfodaeth.
Gwneir y gwaith cynghori, mesur y safle, amcangyfrif, a pharatoi’r islawr gan ein staff gwbl hyfforddedig ein hunain.
Ross Hughes Flooring
Sefydlwyd Ross Hughes Flooring fel cwmni i ddarparu a gosod lloriau masnachol, ar gytundeb,a lloriau i ddiwydiannau trwm i gwsmeriaid yn ac o gwmpas Gogledd Cymru yn 1997. Defnyddir ein lloriau bob dydd, yn llythrennol, mewn miloedd o gartrefi a swyddfeydd.
Cwsmeriaid ein lloriau
Mae ein rhestr o gwsmeriaid yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Iechyd, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Gwasanaeth yr Heddlu, gwestai a busnesau lleol eraill.

Llawr finyl

Carpedi

Llawr laminedig
Gwarant 12 mis ar loriau
Rhoir gwarant o 12 mis ar yr holl amrywiaeth o loriau a nwyddau a gaiff eu gosod gan ein tim o grefftwyr gwbl hyfforddedig.
Mae ein crefftwyr yn arbenigo mewn gosod finyl masnachol a linoleum, lloriau gwrthlithro diogel, carpedi, coed a lloriau laminedig yn ogystal â lloriau cynllunwyr fel Amtico a Karndean a lloriau naturiol fel sisal a coir o’r lloriau Crucial trading.
Defnyddiwn ein timau gosod lloriau ein hunain
Gwnaethom benderfyniad pwysig iawn i gyflogi ein timau gosod ein hunain i gadw rheolaeth ar ansawdd. Yn wahanol i gwmniau eraill, nid ydym yn rhoi’r cytundeb o ffitio’r llawr i gwmniau eraill, er mwyn rhoi mwy o dawelwch meddwl i chi.
Gwasanaeth amcangyfrif a chynllunio gosod llawr
I’ch helpu i ddewis y llawr gorau i chi, rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cynllunio ac amcangyfrif yn rhad ac am ddim heb unrhyw orfodaeth. Gwneir y gwaith cynghori, mesur y safle, amcangyfrif, a pharatoi’r islawr gan ein staff gwbl hyfforddedig ein hunain.
Cysylltu â’n staff gosod lloriau
Teimlwch yn rhydd i gysylltu â’n staff gosod lloriau ar unrhyw adeg. Byddant yn ateb eich holl gwestiynau ac yn cynnig cyngor arbenigol ag argymhellion.